Mae GŵylGrai yn ŵyl celfyddydau ieuenctid sy'n cael ei gynnal yn Venue Cymru yn Llandudno'r penwythnos nesaf (Awst 17-20) i bobl ifanc 14-25 oed.
Bydd CEG yno yn gwneud lot o bethau .......
Bydd gweithdy ysgrifennu caneuon gyda Sera Owen Dydd Gwener am 1yh, a fydd hi hefyd yn cynnal panel diwydiant cerddoriaeth brynhawn Sadwrn gyda Roger Hughes (CEG), Andy o Bonsai Productions a John Morris o PRS for Music. Bydd gweithdy rapio hefyd gyda'r anhygoel Mr Phormula.
Bydd perfformiad arbennig iawn amser cinio Dydd Sul gyda Katherine Betteridge a Phedwarawd Llinynnol Eryri - pwy fydd yn perfformio'r gân wreiddiol Gŵyl Grai (a gyfansoddwyd gan Sera a Hannah Willwood) a chaneuon a ysgrifennwyd gan gerddorion ifanc Kiani Marie a Hannah Willwood. Cyn hynny, daliwch sesiynau acwstig gan Hannah (amser cinio Dydd Gwener) a Kiani (amser cinio Dydd Sadwrn) yn ogystal â cherddoriaeth fyw gan fandiau Piwb a Pasta Hull nos Wener (9y.h).
Dim digon? Iawn ta! Rydym wedi ymuno â Trac, (datblygu Traddodiadau Gwerin) a fydd yn cynnal diwrnod o sesiynau 'flas ar werin' a sesiwn werin Dydd Sadwrn.
Mwy o bethau hwylus? Meic Agored, Kareoke, Disco Distaw, Opera, creu cerddoriaeth o sbwriel, Twmpath ....
A .... Nid yw Gwyl Grai yn ymwneud â cherddoriaeth yn unig, mae'n ymwneud â'r holl ffurfiau celf - celfyddydau gweledol, ffilm, crefft, dawns, theatr, syrcas, ffasiwn ...! Edrychwch ar y rhaglen ar eu gwefan: http://www.rawffest.wales/ - tocynnau o £10 a hefyd tocynnau bwrsari ar gael os na allwch ei fforddio, llenwch y ffurflen hon! Https://goo.gl/forms/wx2zEeotpyGIp2pb2